Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mawrth 2018
Amser:
09.01 -
11.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4621
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Kate Cubbage, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Victoria Lloyd, Cyfarwyddwr Dylanwadu a Datblygu Rhaglenni, Age Cymru Mary Wimbury, Fforwm Gofal Cymru Mario Kreft, Fforwm Gofal Cymru Sanjiv Joshi, Fforwm Gofal Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Katherine Thomas (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Interim, Age Cymru; a Kate Cubbage, Uwch Reolwr Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.
2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar:
· y newidiadau i gomisiynu gwasanaethau sy'n deillio o anghenion mwy cymhleth; a
· cholli gwelyau seibiant.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mary Wimbury, Prif Weithredwr, Fforwm Gofal Cymru; Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru; a Sanjiv Joshi, Aelod o'r Bwrdd, Fforwm Gofal Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.
3.2 Cytunodd Fforwm Gofal Cymru i ddarparu copi o adroddiad diweddar gan Knight Frank.
4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Caiff y sesiwn dystiolaeth ei hail-drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf.
8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gostau deddfwriaeth a chytunodd i gynnal ymchwiliad.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt.